Ein cyngerdd mawr 50!
Cyngerdd Dathlu 50 a gynhelir am 7.30 yh nos Sadwrn 28 Mehefin yng Nghapel y Traeth, Cricieth.
Artistiaid y noson fydd:
Agorir drysau’r Capel am 6.30 o’r gloch, a chan nad oes unrhyw seddi wedi eu cadw heblaw i wahoddedigion, rhagwelir y bydd yna dyrfa go lew yn barod i ddod i mewn. Bydd digon o stiwardiaid ar gael i gynnig cymorth i’r rhai ohonoch fydd angen hynny ar y noson.
Yn ystod yr awr cyn y cyngerdd cewch gyfle i wrando ar ddatganiadau ar yr organ gan dri o organyddion y Capel sy’n digwydd bod yn gyn-aelodau o Feibion Dwyfor.
Bydd rhaglenni ar werth am £5 yr un ar y noson a gwerthir y rhain yn y Capel gan rai o aelodau’r Côr. Felly dewch ag arian parod efo chi yn hwylus o.g.yn dda os byddwch chi am brynu un.
Fel côr hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi ein cefnogi drwy brynu tocyn/tocynnau ac edrychwn yn fawr iawn i’ch croesawu i Gapel Y Traeth, Cricieth nos Sadwrn 28 Mehefin.
M A E P O B T O C Y N B E L L A C H W E D I E U G W E R T H U
~~~~~~~~~~
Our big 50 concert!
Our 50 Celebration Concert will be held at 7.30 pm on Saturday 28 June in Capel y Traeth, Cricieth.
The artists of the evening will be:
The doors of the Chapel will be opened at 6.30 o'clock, and as no seats have been reserved except for invitees, it is anticipated that there will be a large crowd ready to enter. There will be plenty of stewards available to offer help to those of you who need it on the night.
During the hour before the concert you will have the opportunity to listen to recitals on the organ by three of the Chapel's organists who happen to be former members of the Meibion Dwyfor Choir.
Programs will be on sale for £5 each on the night and these will be sold in the Chapel by some of the Choir members. So bring cash with you please if you want to buy one.
As a choir we would like to say a big thank you to everyone who has supported us by buying a ticket/tickets and we look forward very much to welcoming you to Capel Y Traeth, Cricieth on Saturday night 28 June.
A L L T I C K E T S F O R T H I S E V E N T H A V E N O W B E E N S O L D