Beth am ymuno gyda’n cymdeithas?

Ymuno gyda’r côr

  • Ydych chi’n hoffi canu?
  • Ydych chi wedi canu mewn côr o’r blaen?
  • Heb ganu mewn côr ond awydd mawr gwneud?

Dewch atom ni

Mae ein hymarferion yn cael eu cynnal ar nos Fercher yn festri Capel y Traeth Cricieth am 8 y.h. tan 9.30 y.h..

Mae gennym gymdeithas arbennig iawn o wahanol oed a chefndir. Rydym yn griw hwyliog iawn sy’n mwynhau canu ac yn cymryd o ddifrif y cyfeillgarwch sydd rhyngom i gyd dros nifer fawr o flynyddoedd.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda’n hysgrifennydd trwy gyfrwng ei fanylion cyswllt isod neu drwy ein tudalen Facebook drwy glicio ar y ddolen ganlynol: Facebook



Ysgrifennydd / Secretary:
Mr Ifan M. Hughes

➡️ 01758 750 238
➡️ post@cormeibiondwyfor.cymru
➡️ Elidir, Llanaelhaearn, Caernarfon. Gwynedd LL54 5AG